Y Tîm Gwaith Cymdeithasol

Gweithwyr Cymdeithasol

Rydym yn dîm o weithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr rheoli gofal sy'n gweithio gydag oedolion sy'n hŷn na 18 oed a chanddynt anabledd corfforol, pobl hŷn sy'n 65 mlwydd oed neu'n hŷn a chanddynt anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr.

Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth, yn cynnal asesiadau ac yn datblygu cynlluniau gofal a chymorth. Gweithiwn ochr yn ochr â'r sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau ataliol. Defnyddiwn ddull cydgynhyrchu yn ein holl waith sy'n golygu bod unigolion a'u lles wrth wraidd pob dim a wnawn. Rhown gymorth i bobl aros yn annibynnol a datblygu eu hadnoddau eu hunain.

Rydym yn gweithio ar draws ardal ddaearyddol Tywi Taf Gyda'n Gilydd ar sail amlasiantaeth gan weithio gyda chydweithwyr sy'n feddygon teulu, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, nyrsys arbenigol, ymarferwyr iechyd meddwl a seicolegwyr er mwyn sicrhau bod unigolion yn derbyn gwasanaeth cydweithredol a di-dor. Mae’n bosibl atgyfeirio pobl atom trwy ein gwasanaeth gwybodaeth, cymorth a chyngor trwy Llesiant Delta Wellbeing trwy ffonio 0300 333 2222. Derbyniwn hunanatgyfeiriadau neu atgyfeiriadau gan unrhyw un â chydsyniad y sawl y tybir bod arno/arni angen gofal a chymorth.