Presgripsiynu Cymdeithasol

Wellbeing Walks are now being organised in your local area.  

The group walks are led by friendly, trained volunteers who are on hand to provide encouragement and support, and make sure no one gets left behind.

The walks are short and over easy terrain. They are open to everyone, but are especially aimed at those who are least active.  With all of the physical and mental health benefits associated with walking, now seems a great time to see when your nearest walk is taking place.  Click yma. for more information.  Please note due to Covid-19 restrictions you must register online prior to the meeting.

 

Weithiau, bydd cleifion yn ymweld â'u meddyg teulu am resymau ar wahân i rai meddygol oherwydd na wyddant ymhle y gallant gael cymorth â phroblemau cymdeithasol ehangach sy'n cael effaith negyddol sylweddol ar eu hiechyd. Derbynnir mwy a mwy fod gan ffynonellau cymorth mewn cymunedau lleol rôl bwysig i'w chwarae o ran gwella canlyniadau iechyd a lles unigolion, ochr yn ochr â gofal clinigol neu yn hytrach na gofal clinigol hyd yn oed. Mae gwasanaethau llesiant yn cynnig ystod eang o ffynonellau cymorth yn y gymuned i bobl, gan wella llesiant emosiynol a chorfforol a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Yn aml, darperir y gwasanaethau gan bobl sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y trydydd sector neu yn y sector annibynnol, gan ategu rôl sefydliadau statudol.

Mae'r Presgripsiynwyr Cymdeithasol/Cynghorwyr Llesiant yn ardal Tywi Taf yn weithwyr cyswllt sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu i helpu cleifion â materion anfeddygol a’u helpu i gael cymorth priodol yn eu cymuned leol, er enghraifft, ym maes gwirfoddoli, cyflogaeth, budd-daliadau, tai, dyledion, magu plant a gweithgareddau corfforol. Mae ardal leol Tywi/Taf yn ariannu dau bresgripsiynydd cymdeithasol llawn-amser. Gall cleifion atgyfeirio'u hunain at y Presgripsiynydd Cymdeithasol/ Cynghorydd Llesiant yn eu practis meddyg teulu gan ddefnyddio'r ffurflen hunanatgyfeirio canlynol:

Er mwyn bodloni'r meini prawf atgyfeirio, mae'n rhaid i chi fod yn ddeunaw oed neu'n hŷn a not Er mwyn bodloni'r meini prawf atgyfeirio, mae'n rhaid i chi fod yn ddeunaw oed neu'n hŷn a heb fod mewn argyfwng. Os byddwch mewn argyfwng, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl.

Gall Dewis Cymru gynnig rhagor o wybodaeth neu gyngor i chi am rôl Cynghorwyr Llesiant a sut y mae gofalu am eich llesiant, a rhoi gwybodaeth i chi am sut y gallwch helpu rhywun arall.

I drefnu amser i gyfarfod â'ch Cynghorydd Llesiant, cliciwch ar y ddolen isod i alw eich meddygfa.