Staff Technoleg Gynorthwyol

Staff Technoleg Gynorthwyol

  • Gall technoleg gynorthwyol gefnogi dyhead llawer o bobl hŷn, pobl agored i niwed neu bobl anabl trwy roi mwy o ddewis iddynt. Wrth i gyfartaledd oed y boblogaeth godi, mae defnyddio technoleg gynorthwyol yn dod yn llawer mwy amlwg. Yn ein Tîm Adnoddau Cymunedol, mae gennym staff cymorth sy'n gallu cynghori pobl agored i niwed a'u helpu i gadw eu hannibyniaeth ac aros yn ddiogel trwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol.  

Mae rhai enghreifftiau o dechnoleg gynorthwyol y gall ein staff cymunedol roi cyngor arnynt yn cynnwys:

  • Cymhorthion symudedd,
  • Cymhorthion clyw,
  • Addasiadau ffisegol i amgylchedd adeiladau, e.e. rampiau,
  • Switshys a thaclau addasedig,
  • Dyfeisiau i helpu â thasgau pob dydd fel gwisgo, tacluso a choginio.