“A ydych yn gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog sy'n sâl, yn eiddil, yn anabl, neu sydd â phroblem iechyd meddwl neu broblem o ran camddefnyddio sylweddau, ac na fyddai'n gallu ymdopi heb eich help? Os felly, rydych yn ofalwr, ac mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gael help a chymorth.”
Mae Tywi Taf Gyda'n Gilydd yn cydnabod bod gofalwyr yn cyfrannu at arbediad sylweddol i'r GIG trwy ofalu am berthnasoedd, cymdogion neu ffrindiau a fyddai efallai'n gorfod cael gofal hirdymor fel arall. Gall gofalwyr ifanc dan 18 oed fod yn arbennig o agored i niwed oherwydd eu diffyg profiad a'u diffyg sgiliau bywyd. Mae'r feddygfa hon wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ac ystyriaeth briodol i'w chleifion sy'n ofalwyr, beth bynnag fo'u hoedran.
Mae ffurflenni cofrestru ar gael yn y feddygfa neu siaradwch ag unrhyw aelod o'r staff. Mae ffurflenni hefyd ar gael gan sefydliadau gwirfoddol eraill.
Yn eich meddygfa, bydd Arweinydd Gofalwyr y Practis. Gallwch ofyn am gael gair ag ef/â hi dros y ffôn neu drefnu amser i gael sgwrs yn y feddygfa..
Mae'r feddygfa'n cadw rhestr o'r cleifion hynny sy'n ofalwyr ac sydd wedi cytuno i fod ar y gofrestr. Mae'r gofrestr yn galluogi'r feddygfa i roi gwybodaeth i ofalwyr am gymorth a help lleol a chenedlaethol. Gallwn hefyd drefnu atgyfeiriad at y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Asesiad o Anghenion Gofalwr ac at asiantaethau gwasanaethau gwirfoddol eraill, os oes angen.
Ym Tywi, Taf Gyda'n Gilydd, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o anghenion Gofalwyr, a'u cefnogi trwy gynnig help a gwybodaeth ymarferol.
Yr Asesiad o Anghenion Gofalwr yw eich cyfle i ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol am y pethau a allai wneud y rôl o ofalu yn haws i chi. Mae'n asesiad o'ch anghenion chi, nid anghenion yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano. Mae gan bob Gofalwr hawl i asesiad. Pan fyddwch yn cofrestru gyda ni fel Gofalwr, bydd y feddygfa yn cynnig cyfle i chi gael eich atgyfeirio.
Your practice has a dedicated Carers notice board in the waiting room with a lot of information and news of local events.
Thinking of what care you may need in the future, can be daunting but this document on advance care planning (downloadable yma.) can help you to make important decisions regarding your needs.
The national Young Carer I.D. Card, funded by Welsh Government, is now available in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire. This enables a coordinated regional approach in supporting young carers, making it easier for them to access the help they need, when it is needed.
For young carers in Carmarthenshire please visit: https://fis.carmarthenshire.gov.wales/family-support/young-carers-service/
Mae rhagor o wybodaeth am gymorth i ofalwyr ar gael yma..
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion ifanc ar gael trwy ffonio 0300 0200 002.
Neu gallwch hefyd siarad ag ymgynghorydd ar ffôn symudol, rhif 07535449686
Neu anfonwch neges e-bost at melanie@carmarthenshire carers.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am ofalwyr yn Saesneg ewch i wefan Hywel Dda .
Os hoffech weld y gwasanaeth hwn yn Gymraeg, ewch i wefan Hywel Dda .
Ysgrifennwch at Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin:
The Palms Unit 3
96 Queen Street
Llanelli
SA15 2TH
Neu gallwch ddewis ei ffonio ar 03000 200002.
Neu anfonwch neges e-bost a info@carmarthenshirecarers.org.uk
Ysgrifennwch at Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin:
Ty Elwyn
Town Hall Square,
Llanelli
SA15 3AP
Neu gallwch ei ffonio ar 01554 742630
Neu ewch i'w wefan..
Ewch i Gofalwyr Cymru i gael gwybod rhagor am ba gymorth a chyngor sydd ar gael i chi.
Fel arall, ewch i wefan GIG website for more information, or download this document on advance caring needs to plan for your future caring needs.
Os hoffech weld adnoddau ynghylch Clefyd Alzheimer, ewch i'r Gymdeithas Alzheimer's..
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.