Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol

Nid oes gan nifer o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol unrhyw symptomau, er enghraifft HIV. Yr unig ffordd o wybod yn sicr yw trwy gael prawf.

Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol
heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

Beth yw symptomau clefyd a drosglwyddir yn rhywiol?

Gall symptomau clefyd a drosglwyddir yn rhywiol gynnwys y canlynol:

  • rhedlif anarferol o'r wain, y pidyn neu'r anws
  • poen wrth basio dŵr, lympiau neu dyfiannau ar y croen o amgylch yr organau cenhedlu neu'r pen-ôl (anws)
  • brech
  • gwaedu anarferol o'r wain
  • organau cenhedlu sy'n cosi

  • pothelli neu friwiau o amgylch eich organau cenhedlu neu eich anws
  • dafadennau o amgylch eich organau cenhedlu neu eich anws
  • dafadennau yn eich ceg neu eich gwddf, ond mae hyn yn anarferol iawn

  • Os ydych yn poeni bod gennych glefyd a drosglwyddir yn rhywiol, cysylltwch â'ch clinig iechyd rhywiol agosaf, ac osgowch gael cyfathrach rywiol heb gondom hyd nes y byddwch wedi cael canlyniadau eich prawf.