Y Tîm Ffisiotherapi Cymunedol

Team

Ffisiotherapi Cymunedol

Rydym ni'n dîm o Ffisiotherapyddion, a Gweithwyr Cymorth Ffisiotherapi sy'n gweithio gyda phobl sydd ag anawsterau neu broblemau corfforol, niwrolegol a gweithredol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu, nyrsys arbenigol, podiatryddion, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol, ymgynghorwyr meddygol, gofalwyr a gweithwyr ailalluogi. Gweithiwn gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain, yn y gymuned neu yn ein canolfan adsefydlu yn Ysbyty Dydd y Prior ar safle Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae ffisiotherapi yn wasanaeth gweithredol a rhyngweithiol sy'n dibynnu ar waith caled ac ymdrechion yr unigolion sy'n derbyn cymorth, a'u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr yn aml. I gael y canlyniadau gorau, dylid parhau i roi’r cyngor a'r cymorth a dderbyniwyd ar waith yn yr hirdymor, gan gynnwys mynd i ddosbarthiadau ymarfer corff ac ati o bosibl. (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff)..

Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi Cymunedol yn rhan o wasanaeth ffisiotherapi sy'n darparu llawer o wasanaethau arbenigol i gymuned clwstwr Tywi Taf:

  • Ffisiotherapi Cymunedol, cymorth y mae angen ei ddarparu yn y cartref neu yn y gymuned, neu gymorth niwrolegol ei natur.
  • Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol i Gleifion Allanol, cymorth mewn clinig ar gyfer problemau cyhyrysgerbydol (cyhyrau/esgyrn/tendonau, ac ati).
  • Cymorth strôc, gwasanaeth allgymorth am chwe wythnos yn dilyn strôc.
  • Lymffoedema, gwasanaeth arbenigol ar gyfer pobl â lymffoedema.
  • Adsefydlu pwlmonaidd/adsefydlu'r galon, helpu pobl i reoli cyflyrau fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chyflyrau'r galon.
  • Gwasanaeth anafiadau cymhleth i'r ymennydd, cymorth a chyngor tra arbenigol.
  • Timau clinigau bregusrwydd/amlddisgyblaeth, helpu pobl i heneiddio'n dda.