Iechyd Menywod

Mae hwn yn ofod dynodedig ar gyfer iechyd menywod i helpu, cynghori a hyrwyddo iechyd da i fenywod o ran y corff a'r meddwl, fel ei gilydd.

healthy women
healthy body, healthy mind
Corff iach, meddwl iach

Sgrinio Serfigol

Gall sgrinio nodi newidiadau i'r celloedd ac, os bydd angen, gall y newidiadau hyn gael eu trin er mwyn atal canser rhag datblygu.
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru, syn cynnwys anfon gwahoddiadau. Sicrhewch fod eich manylion cyswllt cywir gyda'ch meddyg teulu fel y gellir cysylltu â chi.

Sgrinio'r Fron

Mae proses sgrinio'r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i'r symptomau ddod yn amlwg. Bydd mamogram yn cael ei gynnal, sydd, i bob pwrpas, yn belydr-x o'r fron.

Mae darganfod canser y fron yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i'r claf gael triniaeth lwyddiannus a goroesi.

Y Menopos

Y menopos yw pan fydd eich mislifoedd yn dod i ben o ganlyniad i lefelau hormonau is. Mae hyn fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed. Gall hefyd ddigwydd yn gynt am nifer o resymau, er enghraifft hysterectomi, oofforectomi, cemotherapi neu resymau genetig. Gall y menopos achosi amrywiaeth eang o symptomau, megis gorbryder, yr ymennydd yn teimlo'n niwlog, chwiwiau poeth a mislifoedd afreolaidd, ymhlith pethau eraill. Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu i leddfu rhai o'r symptomau hyn.

Symptomau Cenhedlol-wrinol

Yn ystod y menopos, mae symptomau cenhedlol-wrinol yn amlwg o ganlyniad i ostyngiad yn y lefelau oestrogen: sychder y wain, problemau rheoli'r bledren, heintiau aml yn y llwybr wrinol.

Atal cenhedlu

Gan fod dros 15 o ddulliau atal cenhedlu ar gael, mae'n bwysig eich bod yn dewis y dull sy'n iawn ar eich cyfer chi.

Mae condomau yn fath o amddiffyniad rhwystr sy'n helpu i amddiffyn rhag beichiogrwydd a hefyd glefydau a drosglwyddir yn rhywiol.

Rhowch gynnig ar wahanol ddulliau hyd nes y dewch o hyd i'r un sy'n iawn ar eich cyfer chi.

Iechyd Llawr y Pelfis

Mae ymarferion llawr y pelfis yn cryfhau'r cyhyrau o amgylch y bledren, y pen-ôl, a'r wain neu'r pidyn. Mae cryfhau'r cyhyrau hyn yn helpu i atal anymataledd wrinol ac yn gwella cyfathrach rywiol hefyd.

Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol

Mae yna doreth o glefydau a drosglwyddir yn rhywiol, o boen wrth wneud dŵr, i ddafadennau o amgylch eich ceg, eich anws, eich gwddf a'ch organau cenhedlu. Os ydych yn amau bod gennych glefyd a drosglwyddir yn rhywiol, cysylltwch â'ch clinig iechyd rhywiol.

Cyngor ar Ffordd o Fyw

Gall bwyta'n dda, gwneud ymarfer corff yn aml, a gofalu am eich llesiant meddyliol helpu i leddfu symptomau'r menopos neu berimenopos.

Camdriniaeth Ddomestig

Gall Cam-drin Domestig ddigwydd i unrhyw un. Mae yna fathau gwahanol o gamdriniaeth; fodd bynnag mae pob un yn cynnwys sicrhau pŵer drosoch a rheolaeth arnoch. Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich cam-drin yn emosiynol, eich bygwth neu eich brawychu, neu eich cam-drin yn gorfforol neu'n rhywiol, mae help ar gael.

Corff Iach, Meddwl Iach

Gwnewch 150 munud o ymarfer aerobig dwyster cymedrol bob wythnos.

Gwnewch hyfforddiant cryfder o leiaf ddwywaith yr wythnos.

Rhowch gynnig ar ymarferion cydbwyso am ychydig funudau bob dydd.

Rhagor o gyngor a chymorth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth mewn perthynas ag iechyd menywod, cysylltwch â'ch meddygfa leol.