Menopos a Ffordd o Fyw

Gall bwyta'n dda, gwneud ymarfer corff a gofalu am eich llesiant meddyliol helpu gyda'r symptomau yn ystod perimenopos a'r menopos.

healthy women
Lifestyle Choices
Dewisiadau Ffordd o Fyw

Pa ddewisiadau a allaf eu gwneud o ran ffordd o fyw i wella symptomau'r menopos?

  • Cadwch at batrwm cysgu rheolaidd
  • Bwytewch fwyd sy'n cynnwys llawer o galsiwm
  • Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd
  • Gwnewch weithgareddau ymlaciol megis ioga, tai chi neu fyfyrio
  • Siaradwch ag eraill sy'n mynd trwy'r un profiad
  • Siaradwch â meddyg teulu ynghylch atchwanegiadau

  • Avoid smoking
  • Avoid drinking more than the recommended amount

  • Oherwydd y gostyngiad mewn oestrogen yn ystod y menopos, rydym yn colli calsiwm o'n hesgyrn yn araf. Gall bwyta'r bwydydd canlynol helpu i leihau'r siawns o osteoporosis, a'ch helpu i fyw bywyd iach:

  • anelwch at 2/3 dogn o galsiwm y dydd, megis iogwrt, 200 ml o laeth sgim, darn bach o gaws, ac ati.
  • bwydydd sy'n cynnwys fitamin D, megis pysgod olewog, madarch, cig coch, wyau, rhai grawnfwydydd wedi'u cyfnerthu
  • bwytewch gigoedd â llai o fraster
  • lleihewch faint o siwgrau wedi'u prosesu yr ydych yn eu bwyta, sef y siwgrau a geir mewn losin, cacennau a diodydd meddal
  • osgowch fwydydd wedi'u prosesu
  • anelwch at fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau/lysiau y dydd
  • bwytewch fwydydd â llawer o ffeibr, megis grawnfwyd, bara grawn cyflawn, ac ati
  • anelwch at fwyta pedwar dogn o gnau heb halen, hadau a chodlys bob wythnos

  • Pa fath o ymarfer corff a fydd yn helpu yn ystod y menopos?

    Mae yna lawer o ymarferion a all helpu i amddiffyn a chryfhau eich calon, eich esgyrn a'ch cyhyrau, tra eu bod hefyd yn helpu i gynnal neu wella cydbwysedd, pwysau'r corff, hwyliau, a llesiant cyffredinol.

    Ceisiwch gynnwys sawl math o weithgarwch corfforol yn eich trefn arferol, er enghraifft cerdded yn gyflym, beicio, aerobeg, hyfforddiant pwysau, dawnsio, ioga, ac ati.

    Grwpiau Cymorth

    nod yr elusen hon yw creu byd lle mae gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth a gofal priodol ar gael i helpu i ddeall y newidiadau sy'n digwydd yn y corff yn ystod y perimenopos a'r menopos, a'r modd y gallwn ein harfogi ein hunain yn well i ddelio â'r newidiadau hyn.

    The British Menopause Society yw'r awdurdod arbenigol ar gyfer y menopos ac iechyd ôl-atgenhedlu yn y DU. Sefydlwyd y BMS yn 1989, ac mae'n addysgu, yn llywio ac yn tywys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd, mewn perthynas â phob agwedd ar iechyd ôl-atgenhedlu.

    The British Menopause Society (BMS) dyma'r awdurdod arbenigol ar gyfer y menopos ac iechyd ôl-atgenhedlu yn y DU. Sefydlwyd y BMS yn 1989, ac mae'n addysgu, yn llywio ac yn tywys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd, mewn perthynas â'r menopos a phob agwedd ar iechyd ôl-atgenhedlu.

    Women’s Health Concern (WHC)sefydlwyd yn 1972; cangen y BMS i gleifion oddi ar 2012. Mae WHC yn darparu gwasanaeth cyfrinachol, annibynnol i rannu gwybodaeth ac i gynghori a thawelu meddwl menywod ynghylch eu hiechyd gynaecolegol, rhywiol ac ôl-atgenhedlu.