Iechyd Llawr y Pelfis

Mae ymarfer cyhyrau llawr y pelfis yn helpu i wella rheolaeth ar y bledren a'r coluddyn.

Pelvic Floor Exercises
Pelvic Floor
Iechyd Llawr y pelvis

Beth yw llawr y pelfis?

Mae llawr y pelfis yn cynnwys haenau o gyhyrau a ligamentau. Mae'r rhain yn ymestyn o'r asgwrn pwbig i waelod yr asgwrn cefn (cwtyn y cefn) ac o ochr i ochr.

Mae cyhyrau cadarn, cynhaliol yn llawr y pelfis yn helpu i gynnal y bledren, y groth a'r coluddyn.

Gall ymarfer cyhyrau llawr y pelfis eu cryfhau. Bydd hyn yn gwella eich rheolaeth ar eich pledren ac yn gwella neu'n atal wrin rhag gollwng. Yn yr un modd ag unrhyw gyhyrau eraill yn y corff, po fwyaf y byddwch yn defnyddio ac yn ymarfer cyhyrau llawr y pelfis, cryfaf y byddant.

Pelvic Health Information Hub

One of the first steps in developing the new HDD Pelvic Health pathway has been the development of our new Pelvic Health Website.

The website brings together information about pelvic health conditions, advice, support and treatment options with links to general wellbeing resources. 

Beth yw Ymarferion Llawr y Pelfis?

I gryfhau cyhyrau llawr eich pelfis, eisteddwch yn gyfforddus a gwasgwch y cyhyrau 10 i 15 o weithiau.

Peidiwch â dal eich anadl na thynhau eich stumog, eich pen-ôl na chyhyrau eich cluniau ar yr un pryd.

Pan fyddwch yn gyfarwydd â gwneud ymarferion llawr y pelfis, gallwch roi cynnig ar ddal pob gwasgiad am ychydig eiliadau.

Bob wythnos, gallwch ychwanegu rhagor o wasgiadau, ond gofalwch beidio â'i gor-wneud hi, a chofiwch orffwys rhwng pob set o wasgiadau.

Ymhen ychydig fisoedd, dylech ddechrau sylwi ar wahaniaeth. Dylech barhau i wneud yr ymarferion, hyd yn oed pan fyddwch yn sylwi eu bod yn dechrau gweithio.

Ystumiau Ioga ar gyfer Llawr y Pelfis

Cyn gwneud ymarfer corfforol, cysylltwch â'ch meddyg.