Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol wedi bod ar waith oddi ar fis Ebrill 2009, ac mae'n cynnwys tîm amlbroffesiynol sy'n gweithio'n agos iawn gyda Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd.
Rydym yn hyrwyddo gallu pobl i barhau'n annibynnol ac i gynnal dewis a rheolaeth dros eu bywydau.
Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector er mwyn darparu gofal ar gyfer pobl fel y gallant barhau yn eu cartrefi eu hunain, gan ddarparu cymorth i'w teuluoedd a'u gofalwyr ar yr un pryd.
Mae'r Tîm yn cynnig gwell gwasanaeth sy'n sicrhau bod pobl yn cael yr ymyrraeth iawn, ar yr adeg iawn, gan y gweithiwr proffesiynol iawn.
Mae yna staff ar ddyletswydd bob dydd a all ymateb i sefyllfaoedd brys er mwyn darparu gofal yn nes at y cartref, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda meddygon teulu i atal derbyniadau i'r ysbyty.
Ein nod yw cefnogi pobl, teuluoedd a gofalwyr i fyw cystal â phosibl, a hynny trwy archwilio'r materion a'r problemau sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant o ddydd i ddydd. Mae'r dull hwn yn caniatáu ffordd fwy cydgysylltiedig, integredig o weithio, gan fynd i'r afael â'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn.
Gall unrhyw un atgyfeirio at y Tîm Adnoddau Cymunedol trwy'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0300 333 2222
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.