Symptomau Cenhedlol-wrinol

Mae syndrom cenhedlol-wrinol y menopos (a elwir yn GSM) yn digwydd wedi i'ch mislif ddod i ben.
Genitourinary Syndrome
Symptomau Cenhedlol-wrinol

Beth yw syndrom cenhedlol-wrinol?

Yn ystod y menopos, mae yna ostyngiad sylweddol yn swm yr hormon oestrogen.

Mae'r gostyngiad hwn yn yr oestrogen yn effeithio ar y meinweoedd sy'n amgylchynu'r fwlfa a'r wain.

Mae i syndrom cenhedlol-wrinol nifer o symptomau. Mae'r rhai mwyaf cyffredin fel a ganlyn:

  • dolur yn y wain o ganlyniad i lid a achosir gan sychder
  • cyfathrach rywiol sy'n anghyfforddus neu'n boenus
  • symptomau'r bledren megis amlder cynyddol a brys mewn perthynas â'r angen i basio dŵr
  • heintiau wrinol aml

  • Mae i syndrom cenhedlol-wrinol nifer o symptomau. Mae'r rhai mwyaf cyffredin fel a ganlyn:

  • dolur yn y wain o ganlyniad i lid a achosir gan sychder
  • cyfathrach rywiol sy'n anghyfforddus neu'n boenus
  • symptomau'r bledren megis amlder cynyddol a brys mewn perthynas â'r angen i basio dŵr
  • heintiau wrinol aml

  • Mae i syndrom cenhedlol-wrinol nifer o symptomau. Mae'r rhai mwyaf cyffredin fel a ganlyn:

  • dolur yn y wain o ganlyniad i lid a achosir gan sychder
  • cyfathrach rywiol sy'n anghyfforddus neu'n boenus
  • symptomau'r bledren megis amlder cynyddol a brys mewn perthynas â'r angen i basio dŵr
  • heintiau wrinol aml

  • Sut y caiff syndrom cenhedlol-wrinol ei drin?

    Gellir trin syndrom cenhedlol-wrinol ag eli neu besarïau sydd ar gael ar bresgripsiwn.

    Gellir hefyd gynnig dos isel o oestrogen. Gall oestrogen wedyn drwsio meinwe'r wain yn raddol fel bod y symptomau'n lleihau.

    Grwpiau Cymorth

    The British Menopause Society (BMS) dyma'r awdurdod arbenigol ar gyfer y menopos ac iechyd ôl-atgenhedlu yn y DU. Sefydlwyd y BMS yn 1989, ac mae'n addysgu, yn llywio ac yn tywys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd, mewn perthynas â'r menopos a phob agwedd ar iechyd ôl-atgenhedlu.

    Menopausematters.co.uk gwefan arobryn, annibynnol sy'n darparu gwybodaeth gyfredol, gywir am y menopos, symptomau'r menopos, a thriniaethau posibl. Yma, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y cyfnod cyn, yn ystod ac yn dilyn y menopos, y canlyniadau posibl, yr hyn y gallwch ei wneud i helpu, a pha driniaethau sydd ar gael.

    Women’s Health Concern (WHC), sefydlwyd yn 1972; cangen y BMS i gleifion oddi ar 2012. Mae WHC yn darparu gwasanaeth cyfrinachol, annibynnol i rannu gwybodaeth ac i gynghori a thawelu meddwl menywod ynghylch eu hiechyd gynaecolegol, rhywiol ac ôl-atgenhedlu.

    Daisy Network cafodd ei greu i ddarparu cymorth i fenywod, ynghyd â'u teuluoedd a'u partneriaid, sydd wedi cael diagnosis o symptomau menopos cynamserol. Mae'n deall y gall y diagnosis hwn beri i fenywod deimlo'n eithriadol o ynysig ac yn ddryslyd ac ansicr ynghylch lle i droi nesaf.

    Menopause Cafe ei nod yw sicrhau bod y byd i gyd yn siarad am y menopos.

    Mewn Caffi Menopos, mae pobl, estroniaid yn aml, yn dod ynghyd i fwyta cacennau, yfed te a thrafod y menopos.

    Mae'r canlynol yn berthnasol i'n Caffis Menopos:

    • Mewn gofod hygyrch, parchus a chyfrinachol
    • Yn agored i bawb, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu hoedran
    • Heb unrhyw fwriad i arwain pobl at unrhyw gasgliad, gynnyrch neu gamau gweithredu
    • Yn cael eu cynnal ar sail nid-er-elw
    • Ochr yn ochr â diodydd a chacennau braf!
    Cenhadaeth y gydweithredfa Queer Menopause yw:
      1. Meithrin ymwybyddiaeth o brofiadau pobl LHDTCRhA+ o'r menopos.

      2. Darganfod a hyrwyddo adnoddau cynhwysol ar y menopos.

      3. Ymgyrchu dros well addysg ar gyfer therapyddion ac ymarferwyr gofal iechyd ynghylch anghenion pobl LHDTCRhA+ yn ystod y menopos.