Tîm Ymateb Acíwt

Tîm Ymateb Acíwt (TYA)

Diben Tîm Ymateb Acíwt y gymuned yw atal derbyn cleifion i'r ysbyty a hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty trwy ddarparu ymyriadau nyrsio acíwt yng nghartref y claf, e.e. hylifau a gwrthfiotigau mewnwythiennol, trallwysiadau gwaed a phlatennau a mynediad cyflym at gymorth nyrsio y tu allan i oriau ar gyfer cleifion gofal lliniarol a chleifion â salwch terfynol. 

Mae'r gwasanaeth hwn ar waith bob awr o bob dydd.