Sgrinio'r Fron

Mae'r broses o sgrinio'r fron yn chwilio am arwyddion o ganser y fron cyn i'r symptomau ymddangos. Mae darganfod canser y fron yn gynnar yn cynnig y cyfle gorau ar gyfer cael triniaeth lwyddiannus a goroesi.

Breast Screening
Sgrinio'r Fron
Sgrinio'r Fron

Beth yw canser y fron?

Mae mwyafrif y menywod sy'n cael diagnosis o ganser y fron dros 50 oed, ond gall menywod iau gael canser y fron hefyd. Mae hefyd yn bosibl i ddynion ddatblygu canser y fron.

Mae'n hysbys bod yna ffactorau penodol sy'n cynyddu eich risg o ddatblygu canser y fron. Mae'r rhain yn cynnwys oedran, hanes y teulu, diagnosis blaenorol o ganser y fron, bod yn dal, dros bwysau neu'n ordew, ac yfed alcohol.

Mae yna lawer o symptomau i ganser y fron. Mae'r rhai mwyaf cyffredin fel a ganlyn:

  • newid yn siâp/lliw un fron neu'r ddwy
  • rhedlif o'r naill deth neu'r llall
  • lwmp/chwydd o dan un o'ch ceseiliau
  • pantiau yng nghroen y fron
  • brech o amgylch y deth
  • newid yn ymddangosiad eich teth

  • Beth yw sgrinio'r fron?

    Bydd mamogram yn cael ei gynnal i weld newidiadau ym meinwe'r fron. Bydd hyn yn caniatáu i belydr-x o'r fron gael ei gymryd. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na ellir canfod pob math o ganser y fron fel hyn.

    Grwpiau Cymorth

    Gall pawb y mae canser y fron yn effeithio arnynt droi at Breast Cancer Now i gael cymorth. Pa un a ydych am siarad â'r nyrsys, ymuno â chwrs, neu gwrdd â phobl eraill sy'n deall yr hyn yr ydych yn mynd trwyddo, mae ein gwasanaethau rhad ac am ddim yma i chi bob amser.

    Mae Cymorth Canser Sir Benfro yn cynnig y cyfle i gwrdd ac i fwynhau cymorth un i un mewn amgylchedd cyfrinachol. Ffoniwch 01646 683078 i gael rhagor o wybodaeth.

    Gall delio â chanser fod yn frawychus ac yn flinderus. Gall Tenovus helpu. Daw Tenovus â thriniaeth, cyngor arbenigol a chymorth i'r lle pwysicaf: calon y gymuned.

    Os ydych wedi cael diagnosis o ganser y fron, neu os ydych yn gwybod am rywun sydd wedi cael diagnosis o'r fath, rydym yn darparu gwybodaeth ymarferol am bopeth, o'r symptomau a sgrinio, i ymdopi â'r driniaeth.

    Archwilio Eich Bronnau

    Nid oes yna ffordd gywir neu anghywir o archwilio eich bronnau. Ond mae'n bwysig gwybod sut olwg sydd ar eich bronnau fel arfer, a sut deimlad sydd iddynt. Fel hyn, gallwch sylwi ar unrhyw newidiadau yn gyflym, a rhoi gwybod i feddyg teulu.  

    Ymgyfarwyddwch â sut deimlad sydd i'ch bronnau ar adegau gwahanol o'r mis. Gall hyn newid yn ystod eich mislif. Er enghraifft, mae gan rai menywod fronnau tyner a lympiog o amgylch adeg eu mislif, yn enwedig yn agos at y gesail.

    Ar ôl y menopos, mae bronnau normal yn teimlo'n fwy meddal, yn llai cadarn, ac yn llai lympiog.

    Edrychwch ar eich bronnau a theimlwch y ddwy fron a'r ddwy gesail, ac i fyny at bont eich ysgwydd. Efallai y byddwch yn ei chael yn haws gwneud hyn yn y gawod neu'r bàth, a hynny trwy redeg llaw sebonllyd dros bob bron ac i fyny o dan bob cesail.

    Gallwch hefyd edrych ar eich bronnau yn y drych. Edrychwch gyda'ch breichiau wrth eich ochr a hefyd gyda'ch breichiau wedi'u codi.

    Gall newidiadau yn y fron ddigwydd am sawl reswm, ac nid yw mwyafrif y rhesymau hynny'n ddifrifol. Mae gan lawer o fenywod lympiau yn eu bronnau, ac nid yw mwyafrif y lympiau yn y fron yn ganseraidd. Fodd bynnag, os byddwch yn darganfod newidiadau yn eich bron nad ydynt yn arferol i chi, y peth gorau fyddai gweld meddyg teulu cyn gynted â phosibl.