Y Menopos

Y menopos yw pan fydd menyw yn stopio cael mislifoedd. Mae'n rhan naturiol o fynd yn hŷn sydd fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed.

Y Menopos
Menopos

Beth yw'r menopos?

The British Menopause Society has created a series of videos to help us understand menopause, its symptoms and its impact.  Click on the links below to view for further information.

Beth yw Cymdeithas Menopos Prydain?
Gellir dod o hyd i'r trawsgrifiad Cymraeg o'r fideo hwn yma.
Cliciwch Yma
Beth yw'r menopos?
A transcript of this video in Welsh can be found below
Cliciwch Yma
Beth yw methiant ofarïaidd cynamserol?
The Welsh transcript to this video can be found below.
Cliciwch Yma
Y Menopos: Mae'r Newid Yma
The transcript of this video can be found below
Cliciwch Yma
Beth yw therapi adfer hormonau?
A transcript of this video in Welsh can be found below
Cliciwch Yma
Beth yw'r hormonau a defnyddir yn HRT?
The Welsh transcript to this video can be found below.
Cliciwch Yma
Previous
Next

Grwpiau Cymorth

Cymdeithas Menopos Prydain yw'r awdurdod arbenigol ar gyfer y menopos ac iechyd ôl-atgenhedlu yn y DU. Sefydlwyd y BMS yn 1989, ac mae'n addysgu, yn llywio ac yn tywys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd, mewn perthynas â phob agwedd ar iechyd ôl-atgenhedlu.

Mae Menopausematters.co.uk yn wefan arobryn, annibynnol sy'n darparu gwybodaeth gyfredol, gywir am y menopos, symptomau'r menopos, a'r opsiynau o ran triniaeth. Yma, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y cyfnod cyn, yn ystod ac yn dilyn y menopos, y canlyniadau posibl, yr hyn y gallwch ei wneud i helpu, a pha driniaethau sydd ar gael.

Women’s Health Concern (WHC) – sefydlwyd yn 1972; cangen y BMS i gleifion oddi ar 2012. Mae WHC yn darparu gwasanaeth cyfrinachol, annibynnol i rannu gwybodaeth ac i gynghori a thawelu meddwl menywod ynghylch eu hiechyd gynaecolegol, rhywiol ac ôl-atgenhedlu.

Cenhadaeth y gydweithredfa Queer Menopause yw: Meithrin ymwybyddiaeth o brofiadau pobl LHDTCRhA+ o'r menopos. Darganfod a hyrwyddo adnoddau cynhwysol ar y menopos. Ymgyrchu dros well addysg ar gyfer therapyddion ac ymarferwyr gofal iechyd ynghylch anghenion pobl LHDTCRhA+ yn ystod y menopos.

Daisy Network was created to provide support to women, along with their families and partners, who have been diagnosedwith premature menopausal symptoms. They understand that this diagnosis can feel incredibly isolating and often women are left confused and unsure where to go next.

Nod Caffi Menopos yw sicrhau bod y byd i gyd yn siarad am y menopos. Mewn Caffi Menopos, mae pobl, estroniaid yn aml, yn dod ynghyd i fwyta cacennau, yfed te a thrafod y menopos.

Symptomau Menopos

  • Newidiadau i'ch mislif
  • Newidiadau i'ch hwyliau, er enghraifft hwyliau isel, gorbryder, newid sydyn yn eich hwyliau, ac ati
  • Problemau canolbwyntio, megis yr ymennydd yn teimlo'n niwlog
  • Chwiwiau poeth
  • Cael trafferth cysgu
  • Crychguriadau
  • Pennau tost a meigrynnau – mwy nag arfer
  • Poen yn y cyhyrau a'r cymalau
  • Newidiadau i siâp eich corff neu eich pwysau
  • Gostyngiad yn eich ysfa rywiol
  • Sychder neu gosi yn y wain
  • Heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol
  • Newidiadau i'r croen megis sychder neu gosi.