Y Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol

Team

Model Tîm y Clinig Cof

Mae pedwar clinig cof yn y bwrdd iechyd sy'n cynnwys nyrsys ac ymarferwyr meddygol clinig cof. 

Caiff pob gwasanaeth hyn a hyn o gymorth gweinyddol a mynediad at y gwasanaethau seicoleg a therapi galwedigaethol at ddibenion asesu a llunio datganiadau. Os bydd angen asesiadau pellach (e.e. mewn achosion annodweddiadol), gall fod gofyn atgyfeirio'r claf at wasanaethau y tu hwnt i'r model presennol.


Mae tîm craidd y clinig cof ar gael yn ystod yr oriau gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Pwy sy’n cael Atgyfeirio at y Gwasanaeth Clinig Cof?

Gall eich meddyg teulu, niwrolegydd neu feddyg arall eich atgyfeirio (unwaith y byddwch wedi cael asesiad a bod cyflyrau niwrolegol wedi cael eu diystyru) .


Gallai gwasanaethau neu broffesiynau eraill fod am atgyfeirio cleifion at y gwasanaeth clinig cof. Gallai'r rhain gynnwys y tîm iechyd meddwl cymunedol, ysbyty acíwt neu dîm bregusrwydd a gallant wneud hynny trwy ddwyn eu pryderon i sylw meddyg teulu’r unigolyn. Gallant ofyn hefyd i'r meddyg teulu atgyfeirio'r claf at y clinig cof (gan atodi eu llythyr ynghylch eu pryderon os bydd hynny'n briodol), ynghyd â'r 'wybodaeth atgyfeirio' briodol, a ddisgrifir isod.

Meini Prawf Atgyfeirio at Dîm y Clinig Cof:

Unigolion o bob oedran yr amheuir bod dementia arnynt, na ellir ei briodoli i gyflwr niwrolegol neu gyflwr iechyd meddwl hysbys neu i ddiagnosis blaenorol o'r cyfryw gyflwr (gweler y meini prawf eithrio isod)

Gwybodaeth Atgyfeirio

Bydd penderfyniadau i dderbyn neu wrthod atgyfeiriad yn cael eu gwneud gan benderfynwyr clinigol uwch wrth i atgyfeiriadau gyrraedd swyddfa'r tîm trwy’r post. (Ni chaiff atgyfeiriadau electronig ac atgyfeiriadau dros y ffôn eu derbyn yn y swyddfa ar hyn o bryd).

 Os bydd ansicrwydd ynghylch priodoldeb atgyfeiriad, ymgynghorir â phenderfynwr clinigol uwch arall. Yn ystod y broses hon dylai'r wybodaeth sylfaenol ganlynol fod ar gael, naill ai trwy’r atgyfeiriad gan y meddyg teulu neu'r partner gofal. 

 Ni dderbynnir atgyfeiriadau heb yr wybodaeth ganlynol:


Manylion personol y claf (enw, cyfeiriad, dyddiad geni)

Disgrifiad byr o'r anawsterau (gan gynnwys caniatâd i atgyfeirio)

Hanes meddygol    iechyd corfforol ac iechyd meddwl, manylion archwiliadau meddygol yn y gorffennol ac archwiliadau sy'n parhau.

Meddyginiaeth gyfredol

Canlyniadau profion: hematoleg arferol; profion biocemeg (electrolytau, calsiwm, glwcos a gweithrediad yr arennau a'r afu); profion gweithrediad y thyroid; lefelau Fitamin B12 a ffolad serwm; electrocardiograff a phrawf wrin canol llif os yw deliriwm yn bosibilrwydd

Unrhyw gysylltiad â gwasanaeth arall (yn awr neu yn y gorffennol)

Unrhyw risgiau posibl sy'n bresennol (e.e. diffyg mewnwelediad/gallu i gydsynio)

Gwybodaeth am y 'gofalwr' penodol neu’r perthynas agosaf (os bydd hynny'n briodol)

Gwybodaeth am yrarchwiliad corfforol a wnaed (os gwnaed un)

Niwroddelweddu (tomograffeg gyfrifiadurol, delweddu atseiniol magnetig neu fath arall) defnyddiwch y templed 'sgrinio dementia' i ofyn am sgan.

 

Meini Prawf Eithrio

Er mwyn hwyluso asesiad sylfaenol ffurfiol a manwl gywir, dylai unigolion sydd ag anhwylder sy'n effeithio ar dymer, gorbryder neu anhwylder seiciatrig difrifol neu gymedrol hysbys gael eu hatgyfeirio yn gyntaf at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a fydd yn eu hasesu ac yn eu trin (os bydd hynny'n briodol). Dylid gwneud hynny gyda golwg ar atgyfeirio'r unigolion yn ôl at y clinig cof, unwaith y bydd eu tymer yn 'sefydlog' ac y penderfynwyd nad yw eu hiechyd meddwl yn achosi eu hanawsterau cofio.

Unigolion â chyflyrau iechyd corfforol (e.e. canser, anhwylderau metabolig): dylid ymchwilio i newid gwybyddiaeth a gysylltir dros dro â newidiadau o ran iechyd corfforol neu â chyflwyno meddyginiaeth y gwyddys ei bod yn newid gweithrediad gwybyddol a dylid diystyru cysylltiadau achosol cyn derbyn yr atgyfeiriad. 

Dylai cleifion sydd â phroblemau sylweddol hysbys o ran camddefnyddio alcohol neu gamddefnyddio sylweddau gael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth priodol cyn cysylltu â'r clinig cof (e.e. y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol). Ni fyddid yn argymell gwerthusiad manwl gywir o weithrediad gwybyddol nes bod yr unigolyn wedi ymatal rhag defnyddio cyffuriau/alcohol am 3-6 mis.

Dylai unigolion ag anhwylderau niwrolegol gweithredol hysbys (e.e. anhwylder trawiadau nad ydynt yn rhai epileptig) neu gyflwr niwrolegol (e.e. epilepsi, sglerosis ymledol, anhwylderau mitochondriaidd, meigryn cronig) gael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau priodol.  

Dylai unigolion y gwyddys eu bod wedi cael anaf neu anaf drawmatig i'r ymennydd (gan gynnwys anaf hypocsig i'r ymennydd, haint neu chwydd ar yr ymennydd oherwydd meningitis, enceffalitis, strôc gwaedlifol sy'n gofyn am niwrolawdriniaeth; strôc ischemig[1]) gael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau priodol.

Dylai unigolion y gwyddys bod ganddynt anabledd dysgu gael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau anableddau dysgu i gael asesiad a chymorth, oni wneir cais penodol iddynt gael eu gweld gan y Tîm Clinig Cof Gofal Sylfaenol. 

Dylai unigolion sydd eisoes wedi derbyn diagnosis dementia (e.e. cais am adolygu meddyginiaeth pan fydd ymddygiad yn newid) gael eu hatgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu'r cynllun rhannu gofal (gweler y polisi 'Canllawiau Presgripsiynau Cymorth'). 

 

Asesu

Fel safon ofynnol, dylai'r asesiad anelu at gwmpasu'r canlynol:

Cyfweliad Clinigol

Dylai'r cyfweliad hwn gofnodi barn y claf a'r hysbysydd (lle y bydd hynny'n bosibl) ar yr anawsterau presennol, gan gyfeirio'n benodol at y canlynol: 

Gwybyddiaeth – e.e. cof, iaith, sylw, golwg, sgiliau gwybyddol uwch 

Iechyd corfforol – e.e. iechyd metabolig, cardiofasgwlaidd, niwrolegol

Sgiliau echddygol – gan gynnwys hanes codymau a risg codymau'r unigolyn

Tymer – newidiadau o ran llesiant emosiynol yr unigolyn

Ymddygiad/personoliaeth, e.e. cychwyn, diddordeb, tymer flin

Adroddiadau goddrychol am newidiadau i weithgareddau hanfodol bywyd beunyddiol

Hanes y teulu – h.y. a oes hanes o ddementia yn y teulu?

Materion systemig – e.e. sefyllfa ac amgylchiadau byw yr unigolyn, straen parhaus

Asesiad risg – dylai hwn gwmpasu gyrru

Holiadur ynghylch y gallu i weithredu/holiadur hysbysydd ynghylch gweithredu: holiadur asesu gweithrediad (Functional Assessment Questionnaire) a argymhellwyd gan NICE (2018).

Asesiad Gwybyddol

Argymhellir defnyddio archwiliad gwybyddol Addenbrooke-iii (fersiwn y Deyrnas Unedig) gan mai hwn yw'r dull sgrinio mwyaf sensitif o safbwynt clinigol. Dylid defnyddio gwahanol fersiynau wrth ailadrodd yr asesiadau (h.y. at ddibenion monitro).

Dylid defnyddio prawf MOCA-blind â chleifion sydd â nam ar eu golwg.

. Asesu tymer: Graddfa Gorbryder ac Iselder Ysbyty (HADS)