Camdriniaeth Ddomestig

Gall Cam-drin Domestig ddigwydd i unrhyw un. Nid oes rhad i chi aros am sefyllfa argyfwng cyn gofyn am help.

Camdriniaeth Ddomestig
Camdriniaeth Ddomestig

Beth yw camdriniaeth ddomestig?

Mae yna sawl ffurf ar gamdriniaeth ddomestig; fodd bynnag mae bob amser yn ymwneud â sicrhau pŵer drosoch neu reolaeth arnoch.

Cam-drin Emosiynol.
A yw eich partner yn gwneud y canlynol ...

  • eich beio chi am y gamdriniaeth neu ddadleuon?
  • gwadu'r gamdriniaeth?
  • eich ynysu rhag eich ffrindiau a'ch teulu?
  • eich bychanu neu'n lladd arnoch?
  • eich atal rhag mynd i'r gwaith?
  • dweud wrthych beth i'w wisgo?
  • eich cyhuddo o fflyrtio?
  • rheoli eich arian a'r ffordd yr ydych yn ei wario?
  • monitro eich cyfryngau cymdeithasol, eich lluniau neu eich fideos?
  • defnyddio canfyddwr GPS i gadw golwg ar eich lleoliad?

  • Bygythiadau ac Ymddygiad Bygythiol
    A yw eich partner byth yn gwneud y canlynol ...

  • bygwth eich brifo neu eich lladd?
  • difrodi pethau sy'n eiddo i chi?
  • tarfu ar eich gofod personol?
  • bygwth lladd ei hun neu eich teulu?
  • darllen eich gohebiaeth?
  • aflonyddu arnoch neu eich dilyn?

  • Cam-drin Corfforol
    A yw eich partner byth yn gwneud y canlynol ...

  • eich slapio, eich taro neu eich dyrnu?
  • eich gwthio neu eich pwnio?
  • eich brathu neu eich cicio?
  • eich llosgi?
  • eich tagu neu eich dal i lawr?
  • taflu pethau?

  • Bygythiadau ac Ymddygiad Bygythiol
    A yw eich partner byth yn gwneud y canlynol ...

  • bygwth eich brifo neu eich lladd?
  • difrodi pethau sy'n eiddo i chi?
  • tarfu ar eich gofod personol?
  • bygwth lladd ei hun neu eich teulu?
  • darllen eich gohebiaeth?
  • aflonyddu arnoch neu eich dilyn?

  • Cam-drin Corfforol
    A yw eich partner byth yn gwneud y canlynol ...

  • eich slapio, eich taro neu eich dyrnu?
  • eich gwthio neu eich pwnio?
  • eich brathu neu eich cicio?
  • eich llosgi?
  • eich tagu neu eich dal i lawr?
  • taflu pethau?

  • Cam-drin Rhywiol
    A yw eich partner yn gwneud y canlynol ...

  • cyffwrdd â chi mewn ffordd nad ydych am gael eich cyffwrdd?
  • gwneud ceisiadau rhywiol digroeso?
  • eich brifo yn ystod cyfathrach?
  • rhoi pwysau arnoch i gael rhyw anniogel?
  • rhoi pwysau arnoch i gael rhyw?

  • Cam-drin Rhywiol
    A yw eich partner yn gwneud y canlynol ...

  • cyffwrdd â chi mewn ffordd nad ydych am gael eich cyffwrdd?
  • gwneud ceisiadau rhywiol digroeso?
  • eich brifo yn ystod cyfathrach?
  • rhoi pwysau arnoch i gael rhyw anniogel?
  • rhoi pwysau arnoch i gael rhyw?

  • SUT I HELPU FFRIND SY'N CAEL EI GAM-DRIN?

    Os ydych yn meddwl bod ffrind yn cael ei gam-drin, rhowch wybod iddo eich bod wedi sylwi bod rhywbeth o'i le.

    Os bydd rhywun yn cyfaddef wrthych ei fod yn cael ei gam-drin:

    • gwrandewch, a gofalwch beidio â'i feio
    • cydnabyddwch fod angen nerth i siarad 
    • rhowch amser iddo siarad, ond peidiwch â mynnu ei fod yn siarad 
    • cydnabyddwch ei fod mewn sefyllfa frawychus ac anodd
    • dywedwch wrtho nad oes neb yn haeddu cael ei fygwth neu ei guro
    • rhowch gymorth ffrind iddo, anogwch ef i fynegi ei deimladau, a chaniatewch iddo wneud ei benderfyniadau ei hun
    • peidiwch â dweud wrtho am adael y berthynas neu adael y cartref os nad yw'n barod – ei benderfyniad ef yw hynny
    • gofynnwch a yw wedi dioddef niwed corfforol, ac, os ydyw, cynigiwch fynd gydag ef i'r ysbyty neu at feddyg teulu
    • helpwch ef i roi gwybod i'r heddlu am yr ymosodiad, os yw'n dewis gwneud hynny
    • byddwch yn barod i roi gwybodaeth iddo am sefydliadau sy'n cynnig cymorth a chyngor i'r rheiny sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig

    Grwpiau Cymorth

    Women’s Aid yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio tuag at roi diwedd ar gam-drin domestig.  

    Mae Women's Aid wedi bod ar flaen y gad am dros 45 mlynedd o ran llunio a chydlynu ymatebion i drais domestig a chamdriniaeth ddomestig trwy ymarfer. Mae Women's Aid yn grymuso goroeswyr i sicrhau bod eu llais wrth wraidd ein gwaith, gan weithio gyda ac ar ran menywod a phlant trwy wrando arnynt ac ymateb i'w hanghenion.

    yw'r sefydliad camdriniaeth ddomestig mwyaf yn y DU. Ar unrhyw ddiwrnod penodol, mae ein gwasanaethau yn cefnogi miloedd o fenywod a'u plant, gan eu helpu i orchfygu effeithiau corfforol, emosiynol, ariannol a logistaidd camdriniaeth, ac ailadeiladu eu bywydau – heb ofn.

    Gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau. Ffoniwch 0808 80 10 800 neu ewch i'r wefan gov.wales/live-fear-free

    Hafan Cymru Mae'n ganddo wybodaeth helaeth am ddarparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai ar hyd a lled Cymru a phrofiad helaeth o wneud hynny. I ni, mae gan bobl yr hawl i ddisgwyl byw bywydau diogel, annibynnol yn eu cymunedau. Deallwn fod pobl yn wynebu gwahanol rwystrau ar eu taith tuag at annibyniaeth a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i’w helpu i’w goresgyn.

    Bawso  a darparu gwasanaethau arbenigol i, ddioddefwyr du a lleiafrifol cam-drin, trais a chamfanteisio yng Nghymru. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0800 7318147 neu ebostiwch helpline@bawso.org.uk.

    Relate Cymru Mae gan Relate rwydwaith o canolfannau Relate ledled Cymru a Lloegr cynnig cwnsela a chymorth gan gynnwys:

    Rydym hefyd yn cynnig sgyrsiau 30 munud gyda chynghorydd dros y ffôn, neu drwy sgwrs neu e-bost, ar gyfer pan fydd gennych fater brys penodol y mae angen i chi siarad drwyddo.