Gwasanaeth Seicoleg Iechyd Clinigol

Gwasanaeth Seicoleg Iechyd Clinigol

Rydym yn dîm o seicolegwyr sy'n gweithio gyda chleifion sydd â chyflyrau iechyd corfforol hirdymor, fel diabetes, cyflyrau anadlol a chyflyrau'r galon. Rydym yn gweithio hefyd yn y gwasanaethau poen gronig a gordewdra.

Gall byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor effeithio ar fywydau pobl mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Mae'n gallu effeithio ar y ffordd rydym yn teimlo, yn meddwl, yr hyn a wnawn a'r hyn rydym yn ei osgoi. Bydd llawer o bobl â chyflwr iechyd corfforol hirdymor yn datblygu gorbryder neu iselder sy'n ei gwneud yn anodd iddynt reoli a meistroli eu clefyd. Rydym yn helpu pobl i ddod i delerau â byw gyda phroblemau iechyd corfforol a dysgu dulliau dygymod.

Gweithiwn gyda llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel meddygon teulu, nyrsys arbenigol, podiatryddion, ffisiotherapyddion ac ymgynghorwyr meddygol. Gall eich gweithiwr iechyd proffesiynol neu eich gweithiwr cymdeithasol eich atgyfeirio at y gwasanaeth os cewch anhawster i ddygymod yn emosiynol â'ch cyflwr iechyd corfforol. Ni fyddwn yn rhoi presgripsiwn am feddyginiaeth ond gallwn drafod eich cyflwr, sut y mae'n gwneud i chi deimlo, a chydweithio â chi i wella eich llesiant a'ch tymer.