Atal cenhedlu

Mae atal cenhedlu yn fodd o atal beichiogrwydd, ac mae fel arfer yn rhad ac a ddim trwy'r GIG.

Atal cenhedlu
Atal Cenhedlu

Dulliau atal cenhedlu

  • Y bilsen gyfunol
  • Diaffram neu gap
  • Condomau ar gyfer menywod
  • Mewnblaniad
  • Pigiad
  • Dyfais fewngroth (IUD/coil)
  • System fewngroth (IUS/coil hormonaidd)

  • Condom ar gyfer dynion
  • Cynllunio Teulu Naturiol
  • Patshyn
  • Y Bilsen Progesteron yn Unig
  • Cylch y Wain
  • Diffrwythloni'r Fenyw
  • Vasectomy

  • Previous
    Next

    Dulliau Atal Cenhedlu Brys

    Gall dulliau atal cenhedlu brys atal beichiogrwydd ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch neu os bydd y dull atal cenhedli a ddefnyddiwyd yn methu – er enghraifft, condom yn rhwygo, neu rydych wedi anghofio cymryd y bilsen.

    Mae yna ddau fath o atal cenhedlu brys:

    • y bilsen atal cenhedlu frys - Levonelle neu ellaOne (pilsen “y bore wedyn”)
    • y ddyfais fewngroth (IUD neu'r coil)

    Ble y gallaf gael dulliau atal cenhedlu?

    Gallwch gael dulliau atal cenhedlu yn rhad ac am ddim, hyd yn oed os ydych o dan 16 oed, o'r mannau canlynol:

    • clinigau atal cenhedlu
    • clinigau iechyd rhywiol neu glinigau meddyginiaeth cenhedlol-wrinol
    • rhai meddygfeydd teulu
    • rhai gwasanaethu pobl ifanc
    • fferyllfeydd

    Clinig iechyd rhywiol yn Gaerfyrddin

    Gall dod o hyd i'r clinig iechyd rhywiol yn:

    Pond Street Clinic, Pond Street, Carmarthen, SA31 1RT