Therapi Galwedigaethol

Support

Therapi Galwedigaethol

Mae'r tîm therapi galwedigaethol sydd wedi'i leoli yn y Tîm Adnoddau Cymunedol yn dîm integredig sy'n cynnwys staff a gyflogir gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal ag atgyfeiriadau cymunedol, rydym yn gwasanaethu’r gwelyau ailalluogi preswyl. Mae ein gwaith yn ymestyn hefyd i'r ysbytai acíwt a'r ysbytai cymunedol a darparwn raglenni adsefydlu yn y gymuned ar gyfer cleientiaid sydd wedi cael strôc.

Mae Ffederasiwn Byd-eang y Therapyddion Galwedigaethol  yn diffinio therapi galwedigaethol fel "proffesiwn sy'n hybu iechyd a llesiant trwy ymgysylltu â galwedigaeth."

Gellir diffinio galwedigaeth hefyd fel "gweithgaredd pwrpasol". Pan fydd rhywbeth yn tarfu ar iechyd neu'n ei danseilio, gall galwedigaethau dethol fod yn ffordd effeithiol o adennill gweithrediad a dod yn fwy annibynnol. Mae therapyddion galwedigaethol yn cynnal profion gweithredol ac yn asesu trwy arsylwi ar weithgareddau a’u dadansoddi. Defnyddiant ddadansoddiad gofalus o ffactorau corfforol, amgylcheddol, seicogymdeithasol, meddyliol, ysbrydol, gwleidyddol a diwylliannol er mwyn nodi rhwystrau rhag galwedigaeth.